Swyddog Gwella - Improvement Officer - (Welsh Language is essential)
Gweithio Gartref a Gweithio Ystwyth, wedi'i leoli yn Un Parêd y Gamlas, Caerdydd - Home-working or Agile Working, based at One Canal Parade, Cardiff

Vacancy Reference: 002212

Location: Gweithio Gartref a Gweithio Ystwyth, wedi'i leoli yn Un Parêd y Gamlas, Caerdydd - Home-working or Agile Working, based at One Canal Parade, Cardiff

Closing Date: 10/05/2021

Salary: £36,922-44,863 per annum

Employment Type: Fixed term, full-time

Department: Gwella a Llywodraethu - Improvement and Governance

Hours Per Week: 36

Ynglŷn â’r Swydd

Rydym ni’n recriwtio i sawl rôl newydd a chyffrous er mwyn ehangu ein Tîm Gwella yma yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd y ddau Swyddog Gwella newydd yn gweithio efo’r ddau Swyddog Polisi a Gwella presennol ac yn atebol i Pennaeth y Rhaglen Wella newydd. Bydd y tîm newydd yn datblygu ac yn cydlynu rhaglen newydd ac uchelgeisiol o gefnogaeth a adwaenir gan y sector i’r llywodraeth leol. Rydym ni’n chwilio am unigolion sy’n gallu addasu a gweithio mewn ffordd hyblyg, arloesol, ymatebol a sensitif i heriau ac amgylchedd gwleidyddol awdurdodau lleol.

Rydym ni’n chwilio am ddau Swyddog Gwella, a fydd yn arwain gwahanol brosiectau a rhaglenni. Bydd disgwyl iddyn nhw fod yn hyblyg a chwarae rôl allweddol wrth herio cymheiriaid a chynnal asesiadau panel. Bydd deiliaid y swyddi yn hyderus ac yn wleidyddol ymwybodol, gan dywys a gweithio gydag uwch aelodau a swyddogion fel rhan o dimau cymheiriaid a thimau asesiadau panel awdurdodau lleol.  ​​​​​​​

Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol:  Ydy

Cymraeg yn hanfodol: Ydi. Mae'r gallu i ysgrifennu a siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol.

Lawrlwythwch y Pecyn Recriwtio Yma

Lawrlwythwch y ffurflen Gais Yma

_________________________________________

Rhaglen Wella CLlLC

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i roi grant blynyddol o £800,000 i CLlLC i gefnogi gwelliant a arweinir gan y sector. Mae gan Lywodraeth Cymru ddisgwyliad clir y bydd y grant ar gyfer 2021-22 yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynghorau i weithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Hefyd mae Llywodraeth Cymru yn rhoi grantiau blynyddol a gaiff eu rheoli ar wahân o £200,000 i CLlLC i gefnogi gweithgareddau datgarboneiddio cynghorau a £500,000 i gefnogi arweinyddiaeth ddigidol a thrawsnewid drwy’r Prif Swyddog Digidol a’r Uned Gyflawni.  

Mae ymagwedd CLlLC i welliant a arweinir gan y sector wedi ei gefnogi gan arweinwyr a phrif weithredwyr. Caiff cefnogaeth a arweinir gan y sector ei phriodoli ar y cysyniad o gymorth ar y cyd, gyda chydweithwyr gwleidyddol a phroffesiynol o fewn y sector yn darparu capasiti, cefnogaeth a her adeiladol i fynd i’r afael â heriau’n ymwneud â gwelliant neu i gefnogi arloesedd a thrawsnewid. Mae manteision her a chefnogaeth cymheiriaid yn ddeublyg: mae awdurdod yn elwa o dderbyn safbwyntiau arbenigol a phrofiadol cymheiriaid i fynd i’r afael â mater penodol neu ymgymryd â phroses asesu/herio, ac mae'r cymheiriaid sy'n cymryd rhan yn profi ymagweddau, diwylliannau a datrysiadau sefydliadau eraill ac yn dod â mewnwelediad a dysgu sefydliadol, personol neu broffesiynol newydd yn ôl.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddisgwyliad clir y bydd grant 2021-22 yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynghorau i weithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fe fydd y rhaglen wella yn ystod 2021-22 yn canolbwyntio ar lywodraethu corfforaethol a galluogrwydd, er bod yna drafodaethau parhaus gydag adrannau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chefnogaeth benodol i wasanaethau, er enghraifft gydag addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r grant gwella yn rhoi cefnogaeth a ddarperir yn uniongyrchol drwy CLlLC a Data Cymru a chefnogaeth sydd wedi ei chomisiynu drwy bartneriaid neu ddarparwyr allanol o amgylch pedair thema graidd, cynnig cyffredin sydd ar gael i’r holl gynghorau – yn canolbwyntio ar greu capasiti corfforaethol cryf a galluogrwydd gyda chynghorau o dan bedair blaenoriaeth ryngddibynnol:

  • Adferiad yn dilyn Pandemig COVID19
  • Democratiaeth Leol a Datblygiad Aelodau;
  • Llywodraethu Corfforaethol a Pherfformiad; a
  • Galluogrwydd Corfforaethol. 

Mae CLlLC hefyd yn darparu cefnogaeth ragweithiol ac adweithiol i’r cynghorau hynny sydd angen cefnogaeth fwy dwys a phwrpasol i’w helpu i wella agweddau o’u busnes. 

Fe fydd gweithgareddau gwella CLlLC yn cael eu cyflawni drwy wasanaethau a ddarperir gan Data Cymru a thîm gwella estynedig o 6 aelod o staff, a fydd yn atebol i’r Pennaeth Polisi (Gwella a Llywodraethu), gan gynnwys dwy rôl Swyddog Polisi a Gwella sy’n bodoli eisoes a phedair swydd newydd sef: Pennaeth y Rhaglen Wella; dau Swyddog Gwella ac Uwch Swyddog Cefnogi Rhaglen a Chymheiriaid.

__________________________________________________________________________


About the Role

We are recruiting several exciting new roles to our expanding improvement team within the Welsh Local Government Association. The two new Improvement Officer postholders will work with two current Policy and Improvement Officers and report to a new Head of the Improvement Programme. The new team will develop and coordinate an ambitious new programme of sector-led support to local government. You will be adaptive, flexible, innovative and responsive and sensitive to the challenges and political environment in which local authorities operate.

We are recruiting two Improvement Officer roles, who will lead on different projects and programmes but will be expected to be flexible and play a key role in peer challenge and panel assessment. The postholders will need to be confident and politically aware, being able to guide and work with senior members and officers as part of peer teams and panel assessment teams within authorities.

Politically Restricted:  Yes

Welsh Language essential: Yes. The ability to speak and write fluently is essential for this role.

Download Recruitment Pack Here

Download Application form Here

­_________________________________________

WLGA Improvement Programme

The Welsh Government has agreed to provide the WLGA with an annual grant of £800,000 to support sector-led improvement. The Welsh Government has a clear expectation that the 2021-22 grant will be used to support councils in the implementation of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021. In addition, the Welsh Government provides WLGA with separately managed annual grants of £200,000 to support councils’ decarbonisation activities and £500,000 to support digital leadership and transformation through the Chief Digital Officer and Delivery Unit.  

The WLGA’s approach to sector-led improvement has been endorsed by leaders and chief executives. Sector-led support is predicated on the concept of mutual aid, with political and professional colleagues within the sector providing capacity, support and constructive challenge to address improvement challenges or to support innovation and transformation. The benefits of peer challenge and support are twofold: an authority benefits from receiving expert and experienced peer perspectives in tackling a specific issue or undertaking an assessment/challenge process; and the participating peers are experience other organisations’ approaches, cultures and solutions and brings back new organisational, personal or professional insights and learning.

The Welsh Government has a clear expectation that the 2021-22 grant will be used to support councils in the implementation of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021. The improvement programme during 2021-22 will focus on corporate governance and capability, though there are ongoing discussions with Welsh Government departments about service specific support, for example in education and social services.

The improvement grant provides directly delivered support through the WLGA and Data Cymru and commissioned support through external deliverers or partners around four core themes, a universal offer available to all councils – focused on building strong corporate capacity and capability with councils under four interdependent priorities:

  • COVID19 Pandemic Recovery;
  • Local Democracy and Member Development;
  • Corporate Governance and Performance; and
  • Corporate Capability. 

The WLGA also provides proactive and reactive support for those councils who need more intensive and dedicated support to help them improve aspects of their business. 

The WLGA’s improvement activities will be delivered through services provided by Data Cymru and an expanded improvement team of 6 members of staff, reporting to the Head of Policy (Improvement and Governance), including two existing Policy and Improvement Officer roles and four new posts of: Head of the Improvement Programme; two Improvement Officers; and a Peer and Senior Programme Support Officer.

Closing date:      9am, 10 Mai / May 2021

Interview date:   I'w gadarnhau Wythnos yn Dechrau 17 Mai a 24 Mai 2021 / To be confirmed Week Commencing 17th May & 24th May 2021     

 

This vacancy is now closed. We are no longer accepting applications for this position.

Back