Swyddog Gwella - Improvement Officer
Gweithio Gartref a Gweithio Ystwyth, wedi'i leoli yn Un Parêd y Gamlas, Caerdydd - Home-working or Agile Working, based at One Canal Parade, Cardiff

Vacancy Reference: 002402

Location: Gweithio Gartref a Gweithio Ystwyth, wedi'i leoli yn Un Parêd y Gamlas, Caerdydd - Home-working or Agile Working, based at One Canal Parade, Cardiff

Closing Date: 01/11/2021

Salary: £36,922-44,863 per annum

Employment Type: Fixed term, full-time

Department: Gwella a Llywodraethu - Improvement and Governance

Hours Per Week: 36

Cyfnod: Llawn amser, cyfnod penodol o 18 mis neu secondiad (posibilrwydd o gytundeb 3 mlynedd neu barhaol yn ddibynnol ar gadarnhad o gyllid pellach)

Ynglŷn â’r Swydd

Rydym ni’n recriwtio i ddwy rôl gyffrous er mwyn ehangu ein Tîm Gwella yma yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r tîm newydd yn darparu ac yn cydlynu rhaglen newydd o gefnogaeth a adwaenir gan y sector i’r llywodraeth leol. 


Byddwch yn gallu addasu, arloesi a bod yn ymatebol a sensitif i’r heriau a’r amgylchedd gwelidyddol y mae awdurodau lleol yn gweithredu ynddo. 

Bydd disgwyl i chi fod yn hyblyg a chwarae rôl allweddol wrth gefnogi cymheiriaid, cynnal a chydlynu asesiadau panel. Bydd angen i chi fod yn hyderus ac yn wleidyddol ymwybodol, gan dywys a gweithio gydag uwch aelodau a swyddogion fel rhan o dimau cymheiriaid a thimau asesiadau panel awdurdodau lleol.  

Mae Tîm Gwella CLlLC yn cynnwys Pennaeth y Rhaglen Gwella, pedwar Swyddog Gwella ac Uwch Swyddog Cynorthwyo'r Rhaglen. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Digidol ar gyfer y llywodraeth leol, Data Cymru a Chymdeithas Lywodraeth Leol.

Caiff tîm gwella CLlLC ei ariannu trwy grant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ymrwymiad dangosol i gyllid grant i CLlLC am raglen o wella dros gyfnod o dair mlynedd o 2021-24, fodd bynnag, gwobrwyir y grant ar sail blynyddol yn ddibynnol ar gyflwyno a chymeradwyo cynllun busnes blynyddol. Hysbysebir y swydd felly ar sail tymor penodol, ond gall gael ei ymestyn neu ei wneud yn barhaol pe byddai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gyllid grant tymor hirach neu pe bai cyllid craidd ar gyfer y tîm gwella yn cael ei ddarparu i CLlLC trwy frigdoriad o’r Grant Cynnal Refeniw wedi ei gytuno gan aelod awdurdodau.

Rhaglen Wella CLlLC

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i roi grant blynyddol o £800,000 i CLlLC i gefnogi gwelliant a arweinir gan y sector. Mae gan Lywodraeth Cymru ddisgwyliad clir y bydd y grant ar gyfer 2021-22 yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynghorau i weithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Hefyd mae Llywodraeth Cymru yn rhoi grantiau blynyddol a gaiff eu rheoli ar wahân o £200,000 i CLlLC i gefnogi gweithgareddau datgarboneiddio cynghorau a £500,000 i gefnogi arweinyddiaeth ddigidol a thrawsnewid drwy’r Prif Swyddog Digidol a’r Uned Gyflawni.   

Mae ymagwedd CLlLC i welliant a arweinir gan y sector wedi ei gefnogi gan arweinwyr a phrif weithredwyr. Caiff cefnogaeth a arweinir gan y sector ei phriodoli ar y cysyniad o gymorth ar y cyd, gyda chydweithwyr gwleidyddol a phroffesiynol o fewn y sector yn darparu capasiti, cefnogaeth a her adeiladol i fynd i’r afael â heriau’n ymwneud â gwelliant neu i gefnogi arloesedd a thrawsnewid. Mae manteision her a chefnogaeth cymheiriaid yn ddeublyg: mae awdurdod yn elwa o dderbyn safbwyntiau arbenigol a phrofiadol cymheiriaid i fynd i’r afael â mater penodol neu ymgymryd â phroses asesu/herio, ac mae'r cymheiriaid sy'n cymryd rhan yn profi ymagweddau, diwylliannau a datrysiadau sefydliadau eraill ac yn dod â mewnwelediad a dysgu sefydliadol, personol neu broffesiynol newydd yn ôl.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddisgwyliad clir y bydd grant 2021-22 yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynghorau i weithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fe fydd y rhaglen wella yn ystod 2021-22 yn canolbwyntio ar lywodraethu corfforaethol a galluogrwydd, er bod yna drafodaethau parhaus gydag adrannau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chefnogaeth benodol i wasanaethau, er enghraifft gydag addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r grant gwella yn rhoi cefnogaeth a ddarperir yn uniongyrchol drwy CLlLC a Data Cymru a chefnogaeth sydd wedi ei chomisiynu drwy bartneriaid neu ddarparwyr allanol o amgylch pedair thema graidd, cynnig cyffredin sydd ar gael i’r holl gynghorau – yn canolbwyntio ar greu capasiti corfforaethol cryf a galluogrwydd gyda chynghorau o dan bedair blaenoriaeth ryngddibynnol: 

  •   Adferiad yn dilyn Pandemig COVID19 
  •   Democratiaeth Leol a Datblygiad Aelodau; 
  •   Llywodraethu Corfforaethol a Pherfformiad; a 
  •   Galluogrwydd Corfforaethol.  

Mae CLlLC hefyd yn darparu cefnogaeth ragweithiol ac adweithiol i’r cynghorau hynny sydd angen cefnogaeth fwy dwys a phwrpasol i’w helpu i wella agweddau o’u busnes.  

Fe fydd gweithgareddau gwella CLlLC yn cael eu cyflawni drwy wasanaethau a ddarperir gan Data Cymru a thîm gwella estynedig o 6 aelod o staff, a fydd yn atebol i’r Pennaeth Polisi (Gwella a Llywodraethu), gan gynnwys dwy rôl Swyddog Polisi a Gwella sy’n bodoli eisoes a phedair swydd newydd sef: Pennaeth y Rhaglen Wella; dau Swyddog Gwella ac Swyddog Cymorth Cymheiriaid ac Uwch Swyddog Cymorth.


Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol:  Ydy

Cymraeg yn hanfodol: Na. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwythwch y Pecyn Recriwtio Yma
Lawrlwythwch y ffurflen Gais Yma

_________________________________________

Full-time, fixed term for 18 months or secondment (scope for 3 year or permanent contract subject to confirmation of extended funding)

​​​​
About the Role

We are recruiting two exciting roles to our expanding improvement team within the Welsh Local Government Association. The team is delivering and coordinating a new programme of sector-led support to local government. 

You will be adaptive, innovative and responsive and sensitive to the challenges and political environment in which local authorities operate.

You will be expected to be flexible and play a key role in supporting peer challenge, support and coordinating new panel performance assessments. You will need to be confident and politically aware, being able to guide and work with senior members and officers as part of peer teams and panel assessment teams within authorities. 

The WLGA Improvement Team includes the Head of Improvement Programme, four Improvement Officers and a Senior Programme Support Officer. The Team works closely with the Chief Digital Officer for local government, Data Cymru and the Local Government Association.

The WLGA improvement team is funded through a Welsh Government grant for 2021-22. The Welsh Government has given indicative commitment to a three year programme of improvement grant funding to the WLGA from 2021-24, however, the grant is awarded on annual basis subject to submission and approval of an annual business plan. This post is therefore advertised on a fixed term basis, however, it may be extended or made permanent should Welsh Government commit to longer-term grant funding or should core improvement funding be provided to the WLGA through an RSG top-slice agreed via member authorities. 

WLGA Improvement Programme

The Welsh Government has agreed to provide the WLGA with an annual grant of £800,000 to support sector-led improvement. The Welsh Government has a clear expectation that the 2021-22 grant will be used to support councils in the implementation of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021. In addition, the Welsh Government provides WLGA with separately managed annual grants of £200,000 to support councils’ decarbonisation activities and £500,000 to support digital leadership and transformation through the Chief Digital Officer and Delivery Unit.   

The WLGA’s approach to sector-led improvement has been endorsed by leaders and chief executives. Sector-led support is predicated on the concept of mutual aid, with political and professional colleagues within the sector providing capacity, support and constructive challenge to address improvement challenges or to support innovation and transformation. The benefits of peer challenge and support are twofold: an authority benefits from receiving expert and experienced peer perspectives in tackling a specific issue or undertaking an assessment/challenge process; and the participating peers are experience other organisations’ approaches, cultures and solutions and brings back new organisational, personal or professional insights and learning.

The Welsh Government has a clear expectation that the 2021-22 grant will be used to support councils in the implementation of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021. The improvement programme during 2021-22 will focus on corporate governance and capability, though there are ongoing discussions with Welsh Government departments about service specific support, for example in education and social services. 

The improvement grant provides directly delivered support through the WLGA and Data Cymru and commissioned support through external deliverers or partners around four core themes, a universal offer available to all councils – focused on building strong corporate capacity and capability with councils under four interdependent priorities: 

  • COVID19 Pandemic Recovery; 
  • Local Democracy and Member Development; 
  • Corporate Governance and Performance; and 
  • Corporate Capability.  

The WLGA also provides proactive and reactive support for those councils who need more intensive and dedicated support to help them improve aspects of their business.  

The WLGA’s improvement activities will be delivered through services provided by Data Cymru and an expanded improvement team of 6 members of staff, reporting to the Head of Policy (Improvement and Governance), including two existing Policy and Improvement Officer roles and four new posts of: Head of the Improvement Programme; two Improvement Officers; and a Peer and Senior Programme Support Officer. 

Politically Restricted:  Yes

Welsh Language essential: No. The ability to speak and write fluently is desirable for this role.

Download Recruitment Pack Here

Download Application form Here 

Closing date:      9am, Dydd Llun 1 Tachwedd  2021  /  9am, Monday 1st November 2021 

Interview date:   I'w gadarnhau 8 neu 10 Tachwedd 2021 / To be confirmed 8th or 10th November 2021        

 

This vacancy is now closed. We are no longer accepting applications for this position.

Back