About You
You will be a motivational and creative leader with an excellent track record in Local Government. A people person, you will see the bigger picture, strive for excellence, and be creative in developing solutions to complex issues. This role provides an opportunity to make a real impact and to lead and complement our experienced team. Working in a culture of new ideas and ways of working, you will be given strong political support to develop your leadership and creativity.
About Us
Situated in the heart of North Wales with first class offices, innovative services and outstanding landscapes; we are an excellent employer with a fantastic team culture. We live by our core values of caring about what we do, being fair, innovative, and team players. We are continually seeking to improve what we do, modernise the way we work, address the challenges, and seek new opportunities.
We are able to do so because we have an experienced leadership team, strong fiscal management, respected governance arrangements and excellent support services.
About the Role
The post holder will be responsible for the overall leadership and management of the Council, being a key part of our Strategic Leadership Team and advisor to the Leader, Cabinet & Council.
The ability to speak conversational Welsh to an intermediate level 3 is essential. The ability to read and write in Welsh is desirable. We provide an excellent Welsh translation service for reports and simultaneous translation in committee meetings. We offer a variety of opportunities to assist staff to learn/improve their Welsh.
For further information please refer to our Welsh Language Skills guidance Welsh Language Skills Guidance - Conwy County Borough Council
To Apply
If you are interested in this exciting opportunity, please apply directly on the Conwy County Borough Council website: https://www.conwy.gov.uk/cerecruitment
Closing Date: 22nd September 2022
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyflog: £129,195 - £137,103
Llawn Amser Parhaol
Lleoliad: Hybrid/Swyddfeydd y Cyngor Bodlondeb, Conwy
Cyfeirnod y Swydd: REQ004769
Ymunwch â Sir flaengar, sy’n Creu Cyfleoedd
Oherwydd ymddeoliad, rydym yn dymuno penodi Prif Weithredwr i arwain ac ysbrydoli ein cyngor sydd wedi ennill gwobrau.
Amdanoch chi
Byddwch yn arweinydd ysgogol a chreadigol gyda chefndir gwych mewn Llywodraeth Leol. Yn gallu ymwneud yn rhwydd â phobl, byddwch yn gweld y darlun mwy, yn anelu am ragoriaeth, ac yn greadigol wrth ddatblygu atebion i faterion cymhleth. Mae’r swydd hon yn rhoi cyfle i gael gwir effaith ac i arwain a chefnogi ein tîm profiadol. Wrth weithio mewn diwylliant o syniadau a ffyrdd o weithio newydd, byddwch yn cael cefnogaeth wleidyddol gref i ddatblygu eich arweinyddiaeth a’ch creadigrwydd.
Amdanom Ni
Yng nghanol Gogledd Cymru gyda swyddfeydd o’r radd flaenaf, gwasanaethau arloesol a thirwedd ragorol, rydym yn gyflogwr gwych gyda diwylliant tîm ardderchog. Rydym yn dilyn ein gwerthoedd craidd o fod yn angerddol dros yr hyn a wnawn, bod yn deg, arloesol a bod yn rhan o dîm. Rydym bob amser yn ceisio gwella’r hyn a wnawn, moderneiddio’r ffordd a weithiwn, ymdrin â’r heriau a chwilio am gyfleoedd newydd.
Rydym yn gallu gwneud hyn oherwydd bod gennym dîm arwain profiadol, rheolaeth ariannol gref, trefniadau llywodraethu sy’n cael eu parchu a gwasanaethau cefnogi ardderchog.
Ynglŷn â’r Swydd
Bydd y deiliad swydd yn gyfrifol am arweinyddiaeth a rheolaeth gyffredinol y Cyngor, bod yn rhan allweddol o’n Tîm Arwain Strategol a chynghori’r Arweinydd, y Cabinet a’r Cyngor.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg sgyrsiol ar lefel ganolradd 3 yn hanfodol. Mae’r gallu i ddarllen ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ddymunol. Rydym yn darparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg gwych ar gyfer adroddiadau a chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd pwyllgor. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gynorthwyo staff i ddysgu/gwella eu Cymraeg.
I gael mwy o wybodaeth darllenwch ein canllawiau Sgiliau Iaith Gymraeg Canllawiau Sgiliau Iaith Gymraeg - Canllawiau Sgiliau Iaith Gymraeg - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
I Ymgeisio
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle cyffrous hwn, gwnewch gais yn uniongyrchol ar wefan Cyngor Bwrdeistref: https://www.conwy.gov.uk/recriwtiopw
Dyddiad Cau: 22 Medi 2022