Sylwer, mae'r broses recriwtio ar gyfer y rôl hon yn cael ei weinyddu gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ar ran y Partneriaethau Lleol
Ynni Cymru – Sefydlu Cwmni Ynni Arloesol i Gymru
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan blaenllaw yn sefydlu Ynni Cymru – cwmni ynni newydd Cymru, a fydd yn cefnogi datblygiad systemau ynni lleol clyfar mewn adeg tyngedfennol yn y trawsnewidiad system ynni i gyflawni sero net. Bydd gan yr ymgeisydd brofiad o ddarpariaeth mewn systemau ynni ac ynni adnewyddadwy.
Am y rol
Mae cyfarwyddwyr cynorthwyol yn gyfrifol am gyflawni elfennau craidd Rhaglen Ynni Cymru gan weithio gyda chymunedau lleol a chydweithwyr Llywodraeth Cymru yn y Tîm Ynni.
Bydd y gwaith hwn yn cwmpasu'r ystod lawn o ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni a phrosiectau system ynni lleol craff. Bydd y rôl yn rhoi cymorth i dîm Ynni Cymru a byddwch yn ymwneud â rheoli amrywiaeth o brosiectau cymhleth o'r dechrau i'r diwedd i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arbenigedd a chymorth masnachol, caffael, ariannol a rheoli prosiectau i amrywiaeth o randdeiliaid.
Mae Ynni Cymru wedi'i leoli ar Ynys Môn a bydd yn gweithredu ar draws Cymru gyfan. Mae'r cyfarwyddwyr cynorthwyol wedi'u lleoli gartref ond bydd angen iddynt allu teithio i lawer o brosiectau cymunedol ledled Cymru ac i Local Partnerships a swyddfeydd cleientiaid pan fo angen.
Mae rhai o'r prif ofynion ar gyfer y rôl yn cynnwys:
Amdanoch
- Addysg hyd at safon gradd neu brofiad cyfatebol, gyda chymwysterau proffesiynol sy’n briodol i’r swydd
- Sgiliau rhagorol o ran rheoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys y gallu i ddarparu atebion sy’n diwallu anghenion pawb a chyfathrebu mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd
- Profiad ac arbenigedd yn y gwaith o reoli a darparu prosiectau a rhaglenni effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy.
- Gwybodaeth a phrofiad o ymwneud gyda baratoi achosion busnes ar gyfer prosiectau a rhaglenni ynni (gan ddefnyddio’r ‘model 5 achos’ yn enwedig).
- Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
- Mae teithio helaeth ar draws Cymru yn angenrheidiol. Mae trwydded yrru DU cyfredol a dilys yn ddymunol.
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person.
Am Local Partenrships
Mae Local Partenrships yn eiddo ar y cyd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Trysorlys Ei Fawrhydi a Llywodraeth Cymru. Mae gennym swydd unigryw yn y sector cyhoeddus, gan hwyluso newid drwy weithio'n ddiduedd ac ar y cyd ar draws pob rhan o lywodraeth ganolog, leol a rhanbarthol, a gweinyddiaethau datganoledig.
Mae ein gweledigaeth mor syml ag y mae'n heriol: cryfhau'r sector cyhoeddus i gyflawni'n fwy effeithiol, cyflawni'n gyflymach, a rhoi gwerth am arian i'r trethdalwr a'r cwsmer.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.